3-bedroom semi-detached house · LL57 3PD
Sold STCListed 112 days
Opportunity summary
See Archie’s verdict, returns by strategy and what to check before viewing.
About
Cartref gwych sy'n bendant yn addas i deulu , gyda pharcio oddi ar y ffordd a garej ddefnyddiol. Perffaith ar gyfer cyfleusterau'r pentref lleol.
Ty par, blaen dwbl, hynod ddeniadol, wedi'i gyflwyno'n dda ac wedi'i foderneiddio'n chwaethus ym mhentref Bethesda, sydd o fewn pellter cerdded i gyfleusterau’r pentref ac ysgolion tra dim ond pellter byr o Barc Cenedlaethol Eryri a thua 3 milltir o’r A55.
Yn rhan o’r eiddo mae gardd hael wedi'i thirlunio i'r cefn, sy'n ffinio ag Afon Ffrydlas.
Mae’n cynnig golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri ac yn darparu lle hyfryd i dreulio amser yn yr awyr agored yn ystod y misoedd cynhesaf.
Mae'r tu mewn yn cynnig ystafell fyw eang a chartrefol gyda stôf losgi coed a lloriau derw ac mae ardal fwyta bwrpasol oddi ar y gegin, sydd ar y cyd yn mwynhau golau o’r ddwy ochr.
I'r cefn mae ystafell ardd, toiled defnyddiol a stydi/swyddfa sy'n ychwanegu hyblygrwydd i'r llety.
Mae 3 ystafell wely ar y llawr cyntaf ac ystafell gawod gyfoes a thrawiadol wedi'i gosod yn ddiweddar.
Yn allanol, i'r blaen mae gardd gaeëdig gyda llechi a llu o blanhigion a llwyni i'r ffin ynghyd â llwybr trawiadol o lechi i'r drws ffrynt, sy'n cael ei efelychu ar y dreif i'r ochr sy'n cynnig parcio oddi ar y ffordd.
Mae gan y garej bwer / golau, uned sinc a phlymio ar gyfer peiriant golchi.
Mae'r brif ardd i'r cefn ar sawl lefel, patio palmant eang wrth y ty gyda grisiau yn arwain i fyny at lawnt uchel ac ardal eistedd pellach.
Mae'r ardd gyfan yn cynnwys cyfoeth o flodau, coed a llwyni a choed ffrwythau meddal.
Tu hwnt i'r lawnt mae adeilad allanol o gerrig ac ardal arall i eistedd / bwyta, a thu hwnt i hynny llain lysiau, rhedfa ieir a sied ardd ddefnyddiol.
Mae'r eiddo yn cynnwys ffenestri a gwydr dwbl (uPVC modern i'r drychiad blaen) a gwres canolog nwy.
Gyda digon o le a photensial mawr i ymestyn, yn amodol ar ganiatâd, byddem yn argymell yn gryf eich bod yn archebu apwyntiad i weld y ty yn fuan i werthfawrogi’r cyfle gwych yma.
Porth Ystafell Fyw 4.24m x 5.75m Dimensiynau mwyaf.
Cegin 2.32m x 2.84m Ystafell Fwyta 2.6m x 2.78m Ystafell Ardd 4.06m x 2.01m Stydi/Swyddfa 3.06m x 3.87m Dimensiynau mwyaf.
Neuadd Fewnol Toiled Glanfa Ystafell Wely 1 3.69m x 3.6m Dimensiynau mwyaf. Ystafell Wely 2 3.18m x 3.61m Dimensiynau mwyaf.
Ystafell Wely 3 2.52m x 2.09m Ystafell Gawod 2.64m x 1.97m Garej 2.48m x 5.27m Dimensiynau mwyaf.
Gwasanaethau Rydym wedi cael gwybod gan y gwerthwr fod yr eiddo hwn yn elwa o brif gyflenwad d?r, nwy, trydan a draenio.
Mae gwiriwr Ofcom yn awgrymu bod band ‘broadband’/ffibr ar gael, ac mae signal ffôn symudol awyr agored yn debygol. Gwresogi Gwres Canolog Nwy.
Nid yw'r asiant wedi profi unrhyw wasanaethau, offer na system gwres canolog (os o gwbl).
Deiliadaeth Rydym wedi cael gwybod bod y ddeiliadaeth yn rhydd-ddaliadol gyda meddiant gwag ar ôl cwblhau'r gwerthiant. Dylai cyfreithwyr y gwerthwr gadarnhau'r teitl.
Band Treth Y Cyngor Mae'r eiddo yn fand treth y cyngor D.
Ymwadiad Mae Dafydd Hardy Estate Agents Limited, drostynt eu hunain a'r gwerthwr, yn rhoi rhybudd bod: (1) y manylion hyn yn ffurfio unrhyw ran o gynnig na chontract.
(2) Gwneir pob datganiad heb gyfrifoldeb ar ran yr asiant na'r gwerthwr. (3) Ni ddylid dibynnu ar unrhyw ddatganiad fel cynrychiolaeth o ffaith.
(4) Rhaid i unrhyw brynwr arfaethedig fodloni ei hun trwy archwiliad neu fel arall ynghylch cywirdeb pob datganiad.
(5) Nid oes gan y gwerthwr na'r asiant, nac unrhyw berson yn eu cyflogaeth, yr awdurdod i wneud na rhoi unrhyw gynrychiolaeth na gwarant mewn perthynas â'r eiddo hwn.
(6) Er bod cywirdeb cynllun llawr wedi'i fwriadu, mae'r mesuriadau'n fras ac ni chymerir unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall neu hepgoriad. At ddibenion darluniadol yn unig y mae cynlluniau.
(7) Nid yw gwasanaethau ac offer wedi'u profi ac ni roddir unrhyw warant ynghylch eu gweithrediad.
(8) Mae'r holl gyfryngau, gan gynnwys ffotograffiaeth a fideo, yn parhau i fod yn eiddo i'r asiant ac ni ddylid (truncated)
Value & comps
No previous sales on record.
Returns
Set an offer; the calculator follows it.
We're still gathering serviced-accommodation data for this area.
Archie refurb estimate: a Pro feature
0.0% below asking
This is not financial or investment advice. Prop AI Deals is not authorised by the Financial Conduct Authority (FCA) to provide investment advice.
All investment calculators, property analyses, and AI-generated insights are for informational purposes only. Property investment carries risk and may result in financial loss. All calculations should be independently verified and you should consult with FCA-authorised financial advisors before making any investment decisions.
Past performance does not guarantee future results. Tax implications vary by individual circumstances.
Deal
Properties like this can earn 2–3x BTL yields when converted to HMO, with retrofit costs around £10k/room. Sign in to see the full tier, yield projection, and cost breakdown.
Commercial properties like this can earn 30-50% higher yields when converted to residential under Class MA / Q / P / PA, with prior approval costing ~GBP 96/unit. Sign in to see the recommended route, yield uplift, and cost breakdown.
BRRR-suited properties can recycle 80-100% of investor capital on refi, leaving a high-yielding rental with most of the money out. Sign in to see the refurb cost stack, ARV projection, and refinance maths.
Detached + large garden = sub-division play. Pro tier unlocks the tier badge, plot size, uplift estimate, and regional land benchmark.
Short-lease flats trade at deep discount, but extending under the 1993 Act often costs far less than the discount. Pro tier unlocks the tier badge, premium breakdown, long-lease ARV and arbitrage maths.
See projected short-stay revenue vs a vanilla BTL for this property.
See real sub-let margins (HMO room rates & SA nightly rates) vs the landlord rent.
Area
Agent & docs

FAQ
About Garneddwen, Bethesda, Bangor, Gwynedd, LL57
Explore nearby